Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambria
Amdanom ni
Rydym wedi ein lleoli rhwng y mynyddoedd a’r mor. Profwch yr awyr agored heb yr angen i ddod ag unrhyw beth gyda chi. Mae gan yr ardal hardd hon y cymysgedd perffaith o arfordir a cefn gwlad ac mae ganddi gymaint i’w gynnig o syllu ar ddolffiniaid, teithiau trên stêm, trefi arfordirol, neu fynyddoedd anhygoel y Cambria. Rydym yn cynnig y cyfle i gysylltu’n llwyr â natur wrth fwynhau yn moethusrwydd ein podiau glampio chwaethus.
Dim ond 5 munud ar droed yw glannau’r afon Teifi.
Dianc i dawelwch a golygfeydd godidog o Fynyddoedd Cambria.
Ein gweledigaeth yw darparu seibiant hamddenol, adfywiol i ymwelwyr – yr holl sy’n bwysig ydy chi eich hun – ein cred yw – os am seibiant y dylai fod yn seibiant o’ch trefn arferol. Yn ogystal â darparu’r llonyddwch a chyfle i ddianc o fywyd pob dydd, bydd y bwthyn a’r podiau yn darparu popeth ar eich cyfer – o dywelion i lwyau te. Byddwn yn darparu pecyn croeso wedi cyrchu’n lleol i’n gwesteion wrth gyrraedd, gan weithio’n agos gyda chynhyrchwyr bwyd a diod lleol.
Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambria
Sut allwch chi aros gyda ni?
Moethusrwydd
Glampio
Mae ein pod glampio cynllun agored yn nythu ar odre Mynyddoedd Cambria, perffaith ar gyfer egwyl ramantus, yn ymlacio ynghanol cefn gwlad agored dawel.
Wedi ei osod ers y 1950au
Bwthyn Gwyliau
Mae Felin Gogoyan yn fwthyn 2 ystafell wely cartrefol, wedi ei adnewyddu’n llwyr ym mis Hydref 2019 ond yn dal i gadw peth o’r cymeriad gwreiddiol. Yn cysgu hyd at 4 person.
Mawrth 1af i Hydref 31ain
Gwersylla a Safle Teithio
Dewch i ddianc rhag pryderon bywyd ac ymgolli yn yr amgylchoedd hardd.
STATWS AWYR DYWYLL RYNGWLADOL
Profwch wir awyr dywyll
Ar noson glir, daw awyr dywyll Ceredigion yn fyw gyda miliynau o sêr yn disgleirio yn awyr y nos. Tra’n aros gyda ni, efallai y byddwch yn ffodus i brofi yr awyr llawn sêr anhygoel yma o’ch twb poeth personol neu wrth ymlacio yn y man eistedd tu allan.