Adolygiadau

Adolygiad Cwsmer Felin Gogoyan:

“Oherwydd Covid bu’n rhaid canslo ein gwyliau haf dramor am Awst 2020 ond, wrth lwc, mi wnaethon ni ddarganfod y  trysor llwyr yma – Felin Gogoyan ym mhrydferthwch Cymru. O’r eiliad y cyrhaeddon ni, roeddwn i’n gwybod y byddai’n berffaith ac mi oedd e.

Mae’r bwthyn yn hyfryd. Yn fwy na’r disgwyl. Ystafelloedd maint da iawn gyda gwelyau cyfforddus, ystafell fyw eithriadol o gyfforddus gyda thân agored (ie, fe wnaethom ni hyd yn oed ei gynnau yn yr haf), cegin â chyfarpar llawn gyda phopeth sydd ei angen arnoch a mwy. Mae’r twb poeth awyr agored yn wych ac roedd yn cael ei ddefnyddio bob dydd yn ystod ein arhosiad o 2 wythnos.

Mae’r ardal o’i gwmpas yn syfrdanol. Llwyth o deithiau cerdded gyda golygfeydd anhygoel o ben y bryniau. Mae’r ardal mor dawel – yn sicr fyddwch chi ddim yn clywed traffig. Mae hynny ynddo’ i hun yn hamddenol. Roedd pysgota ar y safle yn llwyddiant a bu’r plant yn treulio oriau yn chwarae yn y nentydd. Roedd yn wyliau teuluol go-iawn ac yn un a’n hadfywiodd yn llwyr.

Mae digon i’w wneud wrth grwydro’r ardal. Aethom i Byllau Teifi (byddech yn taeru eich bod yn Ardal y Peaks), Rhaeadrau Pontarfynach, Aberystwyth ac  Aberaeron- i enwi dim ond rhai. Aethom i draeth Cei Newydd nifer o weithiau a chawsom dywydd bendigedig. Un noson aethom i nôl pysgod a sglodion yna eistedd ar wal yr harbwr yn  gwylio’r dolffiniaid. Mae Caffi Riverbank yn Nhregaron yn gweini bwyd blasus – llond plât o fwyd! Mae’r Talbot yn hyfryd i swper. Mae taith i’r Harbourmaster, Aberaeron ar gyfer pryd canol dydd neu ginio nos arbennig i’w argymell yn fawr, bwyd blasus iawn

Yr un peth a geir gan ymweliad  i Felin Goyoyan nad chewch mewn llawer i le arall yw’r croeso a’r lletygarwch a ddangoswyd gan y perchennog Menna a’i theulu. Nid bod angen dim arnom, ond roedd Menna bob amser wrth law rhag ofn. Bu’n gwirio gyda ni’n rheolaidd (heb darfu) i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn. Fe dreulion ni oriau yn sgwrsio am yr ardal leol a’i hanes ac roedd hi’n fwy na pharod i fy helpu gyda fy ynganiad o’r Gymraeg. Dynes hyfryd – ynghyd a’r teulu cyfan.

Cawsom amser mor ffantastig yn ystod ein hwythnos gyntaf fel ein bod wedi bwcio’n syth i fynd eto eleni – dydw i erioed wedi gwneud hynny gyda gwyliau. Rydym i gyd yn  hapus iawn y byddwn yn treulio gwyliau arall yn Felin Goyoyan.

Os ydych chi’n chwilio am wyliau bendigedig, swynol, digon o le, llawn offer, cyfeillgar i gŵn (roedd ein ci wrth ei fodd) sy’n cynnig amgylchoedd syfrdanol i chi – dyma’r lle! Lleoliad heddychlon lle gallwch ymlacio (yn y twb poeth gwych) a jyst adfywio wrth wrando ar fyd natur.  Mae’n fan perffaith –  ni chewch eich siomi. Yn wir, hyderaf, unwaith yr ewch, y byddwch chi’n sicr o ddychwelyd.”

Beth allai ddweud?

Menna a John – mae’r ddau ohonoch chi’n anhygoel. Yn gyntaf, cwpl mor brydferth sy’n gweithio mor galed i ddarparu’r gwasanaeth gorau.

Mae Felin Gogoyan yn fwthyn mor brydferth a ddaeth a dau gwpl ‘workaholic ‘yn agosach. Os oes angen i chi ddianc, Felin Gogoyan yw’r lle gorau.

Byddaf i a fy nheulu yn dychwelyd eto ac edrychwn ymlaen i fynd nôl ganol 2021. Fe wnaeth Menna a John gyflawni fy holl ddisgwyliadau yr oeddwn yn ddymuno ar gyfer penblwydd fy mhartner hefyd ac roedd wrth ei fodd. Mae Menna a John wedi dod yn agos iawn at ein calonnau a fedrwn ni ddim aros i ddod nôl eto.

Diolch o galon i chi Menna a John, mae’r ddau ohonoch chi’n bendant yn gwneud rhywbeth yn iawn i ni ddod ‘nôl eto. Xxx

Adolygiad cwsmeriaid Felin Gogoyan gan H, Llundain

Am benwythnos anhygoel gawsom ni. Roedd gan y pod bopeth y gallech chi ddymuno a’i angen gyda’r cyffyrddiadau ychwanegol fel balŵns i ddathlu Nos Galan.

Mae’r twb poeth yn fonws gwych ac yn bleserus iawn ar noson o aeaf.

Wedi cael yr amser gorau erioed ac yn methu aros i ddychwelyd. Gallaf ei argymell yn fawr a byddaf yn parhau i ddweud wrth bawb amdano.

Ellie Pratt

Rydym wedi bod yn aros ar y safle teithiol ers blynyddoedd lawer. Mae’r perchnogion yn groesawgar a chyfeillgar iawn. Rwy’n argymell y safle yn fawr. Mae’n atyniadol a hamddenol iawn, teithiau cerdded hyfryd ac afon brydferth. Lle gwych i dreulio gwyliau tawel.

Adolygiad cwsmer o Safle Teithio a Gwersylla gan A, Wrecsam

Rydw i a fy ngŵr yn aros yma yn un o’r podiau hyfryd am 5 noson ar ein mis mêl bach.

Roedden ni wrth ein bodd gyda’n pod ac roedd y golygfeydd o’i gwmpas yn anhygoel. Mae Menna a John mor groesawgar ac roedd y pecynnau a ychwanegwyd gennym i gyd yn barod ac yn aros amdanom, ynghyd â  baner pert “Mr a Mrs Lee” a’r petalau ar y gwely.

Ar ôl cael wythnos brysur ymlaen llaw gyda’r briodas, roedd yr gwyliau yma yr union beth roeddem ei angen. Roedden ni’n eistedd yn y twb poeth bob nos o dan y sêr anhygoel.

Hefyd fe wnaethon ni lawer o gerdded ac ymweld â gwahanol ardaloedd.

Yn cynllunio ein taith nesaf yn barod.

Emma Lee

Newydd ddod yn ôl o benwythnos i ffwrdd. Roedd y safle mor heddychlon, y podiau fel pin mewn papur a’r olygfa’n berffaith- roedd  yn braf i jyst dadflino ac ymlacio yn y twb poeth ac edrych ar y sêr! Yn ei argymell yn fawr! Diolch Menna a John, byddwn bendant yn dod nôl!

Chloe Jones

Mwynhaodd fy ngŵr a minnau, ynghyd â’n 2 sbaniel ymweliad gwych â ‘Felin Gogoyan’ ym mis Chwefror 2020. Yn ein barn ni dyma’r lle perffaith i ddadflino ac adfywio. Mae’r bwthyn yn helaeth, ond eto’n glyd ac wedi’i leoli’n baradwysaidd o fewn prydferthwch Mynyddoedd Cambria. Roeddem ni’n mwynhau mynd â’r cŵn am dro gerllaw’r bwthyn wrth ochr yr afon Teifi, ynghyd ag archwilio’r ardal leol ymhellach i ffwrdd. Cawsom hyd i deithiau cerdded hyfryd o amgylch Llambed, Tregaron ac Aberystwyth. Roedd y cŵn yn ddigon ffodus i gael eu hystafell eu hunain yn y bwthyn – oedd yn bendant yn fonws ychwanegol! Ar ôl ein teithiau cerdded byddem yn edrych ymlaen at ymlacio yn y twb poeth hyfryd gyda gwydraid o ‘fizz’ ac yna sychu o flaen y llosgwr coed.  Daeth Menna draw yn ddyddiol i wirio’r twb poeth a gweld os oedd angen unrhyw beth arnom. Roedd hi’n hyfryd sgwrsio gyda hi. Fe’n cyflwynodd hi ni i jam chilli a wnaed yn lleol oedd yn flasus, yn enwedig gyda chaws.  Yn ogystal – diolch i’w gwybodaeth leol roedd hi’n gallu argymell rhai llefydd gwych i fwyta/ymweld â nhw.

Ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu codi, allwn ni ddim aros i ddychwelyd!

Felin Gogoyan - adolygiad cwsmeriaid gan Mr & Mrs S, Wiltshire