Hamperi

Fel mae’r enw’n awgrymu rydym wedi’n lleoli ynghanol prydferthwch Mynyddoedd Cambria. Mae’r ardal hon wir yn drysor cudd yng Nghymru, wedi’i lleoli rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rydym yn ffodus iawn o fod a chynhyrchwyr bwyd bendigedig yn ein hardal leol. Cynnyrch sy’n amrywio o gig oen, cig moch, siocledi moethus, mêl a wafflau taffi.

Un o’n nodau o fewn y busnes yw cefnogi’n lleol.

Cynhyrchwyr bwyd, diod a chrefft leol ac yn bennaf oll rhoi cyfle i’n gwesteion gael blas ar Fynyddoedd Cambria drwy ein hamperi croeso.

Rydym yn cynnig sawl cynnyrch i’n gwesteion brofi yn ystod eu harhosiad, a thrwy hyn, mae nifer fawr ohonynt yn gofyn a yw’n bosib prynu’r cynnyrch i fynd gartref i’w teulu a’u ffrindiau.

Yn ystod ymweliad diweddar â Ffair Bwyd, Diod a Chrefft Mynyddoedd Cambria 2022 a drefnwyd gan Dafydd Wyn Morgan o Fenter Mynyddoedd Cambria ym Mwlch Nant yr Arian, cawsom ein hysbrydoli gan yr holl gynhyrchwyr lleol sy’n creu cynnyrch anhygoel yma ym Mynyddoedd Cambria.

Yn sgil yr ymweliad, daeth y syniad i ni weithio gyda’r cynhyrchwyr drwy greu ein hamperi pwrpasol.

Rydyn ni’n gallu creu archebion unigol wedi’u teilwra i gyd-fynd â’ch cyllideb.

Rydym hefyd yn gallu creu hamperi i fusnesau a darparwyr llety.

Gall y hamperi gynnwys unrhyw gyfuniad rydych yn ei ddymuno. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Rydym ni’n cefnogi :

  • Welshhomestead Smokery
  • Sarah Bunton Siocledi arobryn
  • Radnor Preserves
  • Coco Pzazz siocledi
  • Coffi Teifi
  • Tregroes Waffles
  • Mel Mynach Honey

Hamper Mynyddoedd Cambria

Ysbrydolwyd ni gan awyr dywyll syfrdanol Mynyddoedd y Cambria i greu’r hamper unigryw yma hefyd.

Hamper Awyr Dywyll Mynyddoedd Cambria

Ysbrydolwyd ni gan awyr dywyll syfrdanol Mynyddoedd y Cambria i greu’r hamper unigryw yma hefyd.