Brefi – Pod

Bwthyn Bach Brefi

Mae Bwthyn Bach Brefi wedi ei leoli yn ddelfrydol i archwilio’r atyniadau niferus a mannau prydferth sydd yng Ngheredigion. Lleolir yn ganolog rhwng y mynyddoedd a’r môr.

Newydd ers Ionawr 2021. Mae’r pod glampio cynllun agored, moethus hwn yn cwtsio ar odre Mynyddoedd Cambria, yn berffaith ar gyfer egwyl ramantus, wedi leoli  mewn cefn gwlad agored dawel ac yn cynnig rhyddid gwersylla traddodiadol i chi. Mae Bwthyn Bach Brefi yn darparu bodlonrwydd  a thawelwch o’r radd flaenaf, a gellir ei fwynhau trwy’r flwyddyn! Y tu allan mae dec pren ble cewch ymlacio a gwrando ar synau cefn gwlad a chael cipolwg o’r Barcutiaid Coch yn hedfan uwchben neu jyst ymlacio yn y twb poeth. Wrth iddi nosi, gallwch edmygu’r awyr serennog o gysur eich cadair neu’r twb poeth.

Gallwch hefyd fanteisio ar eich twb poeth preifat eich hun, a mynediad at 1.5 milltir o bysgota ar yr afon Teifi rhwng mis Mawrth a mis Hydref (angen trwydded). Gellir mynd am dro yn syth o stepen y drws, ac i’r rhai sydd am feicio mynydd mae digon o lwybrau yn yr ardal.

Mae yma wres tanlawr a gwydro dwbl i’ch cadw’n glyd ac yn gynnes yn ystod y misoedd oer. Ceir yma  bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer arhosiad cyfforddus, yn cynnwys cegin gali gyda microdon a hob anwytho, oergell gyda rhewgell fach, gwely soffa cornel dwbl, bwrdd bwyta a chadeiriau, teledu, gwely dwbl ac ystafell gawod. Mae eich pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgr a chynnyrch wedi eu cyrchu’n lleol. Y tu allan ceir decin pren sydd â thwb poeth (2 o bobl) a pharcio preifat ar gyfer 1 car. Pwll tân gyda dodrefn gardd. Dim ysmygu.

Yn cynnwys:

  • Trydan
  • Wi-Fi
  • Dillad gwely
  • Tyweli
  • Coed i gychwyn y pwll tân (Coed sych ar gael i’w prynu am £5.00 y fasged)

Ar gyfer Argaeledd ac archebu: Bwthyn Bach Brefi (UK31919)