Felin – Bwthyn

Fe ddewch o hyd i  Felin Gogoyan, wedi’i leoli ymhell o unrhyw draffig, i lawr lôn wledig, Mae wedi bod yn y teulu ers y 1950au a ni yw’r drydedd genhedlaeth i fod yn berchen ar yr eiddo. Fel hen felin ŷd roedd yn ganolfan i weithgareddau gwledig ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth am flynyddoedd lawer. Mae tystiolaeth gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru fod hon yn felin ŷd lewyrchus yn y 1920au. Mae rhai olion o’r felin i’w gweld o hyd.

Fe’i defnyddiwyd fel bwthyn gwyliau ers y 1950au gan Mr a Mrs Griffiths (rhieni John). Mae cymaint yn cofio dod i aros yma;  ac erbyn hyn, mae eu wyrion yn ymwelwyr cyson.

Mae Felin Gogoyan yn fwthyn cartrefol, 2 ystafell wely, wedi ei adnewyddu’n llwyr ym mis Hydref 2019 ond yn dal i gadw peth o’r cymeriad gwreiddiol ac yn cysgu hyd at 4 person. Ni allech ofyn llawer mwy gan y bwthyn yma sydd yn llawn offer. Mae’n cynnwys cegin fwyta  gyda microdon, popty, peiriannau golchi llestri a dillad, lolfa gyda llosgwr pren clyd, teledu ‘Freeview’ a chadeiriau codi a gostwng cyfforddus ynghyd a soffa 2 sedd. Ystafell storio lawr grisiau ar gyfer sgidiau glaw mwdlyd, cotiau ac ati.

I fyny’r grisiau fe geir 2 ystafell wely gyda gwelyau maint brenin y gellir eu rhannu yn 2 wely sengl. Ystafell gawod gyda rheilen dyweli wedi’i wresogi. Lloriau derw solet drwyddo. Gwres canolog olew a Wi-Fi.

Y tu allan cewch hyd i dwb poeth ar gyfer 4 person a pharcio preifat ar gyfer 2 gar. Patio gyda dodrefn gardd a barbeciw. Sylwer: Mae afon fach agored heb ei ffensio 20 llath i ffwrdd.

Cynnwys

  • Trydan
  • Wi-Fi
  • Gwres canolog olew
  • Dillad gwely
  • Tyweli
  • Coed i gychwyn llosgwr pren (Coed sych ar gael i’w brynu am £5.00 y fasged)
  • Pysgota preifat am 1.5 milltir ar hyd yr afon Teifi mis Mawrth i fis Hydref (angen trwydded).

Argaeledd a threfnu: Felin Gogoyan (UK12583)