Safle Teithio a Gwersylla

Wedi’i leoli ym Mynyddoedd Cambria rhwng y môr a’r mynydd, mae Glampio a Gwersylla Mynyddoedd  Cambria yn cynnig cyfle i chi ddianc oddi wrth bryderon bywyd ac ymgolli yn yr amgylchoedd hardd.

Mae pob un o’n lleiniau teithiol yn hael o ran maint gyda digon o le i chi fwynhau eich gwyliau.

Mae gan y safle 6 llain deithiol gwasanaeth llawn –  i gyd yn wastad, glaswelltog ac wedi’u draenio’n dda, yn ogystal â 4 llain glaswellt gwastad.

Mae ein lleiniau gwasanaeth llawn yn cynnwys saf bibell ddŵr, cysylltiad trydanol, lle i adlenni, a pharcio ar gyfer 1 cerbyd.

Ceir bloc cawod/toiled newydd sbon o fewn cyrraedd i’n holl leiniau teithiol. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ystafell gawod a thoiled, ystafell aml-bwrpas gyda oergell cymunedol, pheiriant golchi a sinc ar gyfer golchi llestri a phwynt gwaredu toiledau cemegol.

Mae’r safle teithio a gwersylla ar agor rhwng y 1af o fis Fawrth a 31ain o fis Hydref. Byddwn bob amser yn argymell archebu er mwyn sicrhau y gallwch chi fwynhau eich amser gyda ni ac yn sicr mae’n angenrheidiol ar Wyliau Banc.

Dydyn ni ddim yn gwerthu bwyd na phapurau newydd, ond os bydd angen unrhyw beth hanfodol arnoch, mae digon o ddewis yn siop bentref Llanddewi Brefi gerllaw.

Amser cyrraedd y safle ar gyfer pob archeb yw o 1 y ‘pnawn ymlaen. Gofynnir i bob ymwelydd adael y safle erbyn hanner dydd ar eu diwrnod ymadael.

Mae pris pob llain yn cynnwys: 1 carafán, cartref modur neu babell ac 1 car neu feic modur ac 1 adlen.

1.5 milltir o bysgota ar yr afon Teifi fis Mawrth i fis Hydref (angen trwydded).

Llain glaswellt gwasanaeth llawn:

  • Addas ar gyfer carafanau, pebyll a chartrefi modur
  • Cysylltiadau dŵr a thrydan
  • Cyfleusterau cawod a thoiledau gerllaw
  • Peiriant golchi dillad, oergell gymunedol a sychwr dillad ar gael

Lleiniau glaswellt arferol:

  • Addas ar gyfer pebyll yn unig
  • Dim cysylltiad uniongyrchol â dŵr, gwastraff na thrydan
  • Cyfleusterau cawod a thoiledau gerllaw
  • Peiriant golchi dillad, oergell gymunedol a sychwr dillad ar gael

PRISIAU – PRIS Y NOSON

Llain gwasanaeth llawn

Tymor yn agored o 1 Mawrth hyd 31 Hydref. £25 y noson.

Llain Gwair Arferol

Tymor yn agored o 1 Mawrth hyd 31 Hydref. £20 y noson.

Cŵn, £5.00 yr arhosiad.