Pentrefan o fewn pentref Llanddewi Brefi yw Gogoyan, rhyw 4 milltir o dref farchnad Tregaron a 5 milltir o dref prifysgol Llanbedr Pont Steffan.
Fferm laeth weithredol yw Fferm Gogoyan, a gellir gweld y gwartheg godro yn pori ar y dolydd trwy’r Gwanwyn, Haf a dechrau’r Hydref. Ymfalchïwn yn y ffaith bod ein llaeth yn aros yng Nghymru. Mae’r llaeth yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu caws Cymreig Sir Benfro. Mae’n cael ei gasglu’n ddyddiol gan First Milk a’i ddanfon i’r ffatri yn Hwlffordd lle mae’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu caws.
O fewn pellter cerdded mae pont 5 bwa Pont Gogoyan, rhestredig gradd II, a gafodd ei hadeiladu ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac sydd yn cael ei hystyried y bont fwyaf deniadol dros yr afon Teifi.
Mae Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambria yn cynnig lleoliad ardderchog ar gyfer beicio, cerdded, byd natur a’r cyfle i ymweld â’r tirweddau harddaf yng Nghymru. Mae wedi ei leoli yn gyfleus i fwynhau’r holl sydd gan Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria i’w gynnig.
Dolen ddefnyddiol:
Darganfod Ceredigion – Dewch o hyd i weithgareddau awyr agored ac antur, treftadaeth a diwylliant