Cysylltu

Cysylltu â ni


 

I wirio argaeledd ac archebu Llety (bwthyn/pod) ewch i’r dolenni Cottages.com  isod:

– Felin Gogoyan (UK12583) – Cottage – Tŷ Twt Teifi (UK31917) – Glamping Pod – Bwthyn Bach Brefi (UK31919) – Glamping Pod

I archebu Teithio a Gwersylla, cysylltwch dros y ffôn neu anfonwch e-bost isod:

Ffôn: 07812 461244 E-bost:  info@cambrianmountainsglampingandcamping.com Cyfeiriad: Cefnllwyn, Llanddewi Brefi, Ceredigion SY25 6NZ Ar Facebook:  Cambrian-Mountains-Glamping-Camping

Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambria

Mae Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambria ger pentref Llanddewi Brefi, rhwng Tregaron a Llanbedr Pont Steffan.

Os oes gennych chi’r ap What 3 Words  y  tri gair ar gyfer y lleoliad yw ‘shady,outs,instead’.

Sut i ddod o hyd i ni

O’r gogledd: Dilynwch y cyfarwyddiadau sat nav. Ewch yn eich blaen ar hyd yr A485 drwy dref Tregaron, gan barhau ar yr A485 am tua 4 milltir nes i chi gyrraedd Olmarch. Fe welwch safle bws o’ch blaen ar y chwith a thŷ carreg gyferbyn â’r safle bws ar eich de. Ar ôl y safle bws  trowch i’r chwith ar hyd ffordd gul sydd ag arwydd glas ‘ddim yn addas i gerbydau hir’ ac ymhen tua hanner milltir fe ddewch at dri thŷ. Ewch yn eich blaen i lawr y ffordd nes dod i waelod yr allt wrth hen adeilad sinc. Trowch i’r dde ar y gyffordd a pharhau am tua 200 llath cyn gweld tŷ gwyn ar eich chwith. Ychydig wedi hyn trowch i’r chwith. Bydd arwydd mawr gyda Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambrian ar y  ffens a byddwch yn gweld ein safle i lawr y lôn yn y cae i’ch de. Dilynwch y ffordd i’r pen.

O’r de: Dilynwch y cyfarwyddiadau sat nav. O Lanbedr Pont Steffan ewch yn eich blaen ar hyd yr A485 am tua 5 milltir hyd nes cyrraedd Olmarch. Fe welwch safle bws o’ch blaen ar y dde a thŷ cerrig gyferbyn â’r safle bws. Cyn cyrraedd y safle bws  trowch i’r dde ar hyd ffordd gul sydd ag arwydd glas ‘ddim yn addas i gerbydau hir’ ac ymhen tua hanner milltir fe ddewch at dri thŷ. Ewch yn eich blaen i lawr y ffordd nes dod i waelod yr allt wrth hen adeilad sinc. Trowch i’r dde ar y gyffordd a pharhau am tua 200 llath cyn gweld tŷ gwyn ar eich chwith. Ychydig wedi hyn trowch i’r chwith. Bydd arwydd mawr gyda Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambrian ar y  ffens a byddwch yn gweld ein safle i lawr y lôn yn y cae i’ch de. Dilynwch y ffordd i’r pen.