Darganfod Awyr Dywyll

Ar noson glir, mae awyr dywyll Ceredigion yn byrlymu gyda miliynau o sêr yn disgleirio yn awyr y nos. Tra’n aros gyda ni, efallai y byddwch yn ffodus i brofi awyr llawn sêr anhygoel, a’i weld o’ch twb poeth personol neu drwy edrych fyny o’r man eistedd tu allan. Dechreuwch eich profiad awyr dywyll yma gyda Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambria. Er i ni gael ein magu yma yn yr ardal rydym yn dal i ryfeddu at awyr y nos a sut mae’n newid o noson i noson.

O fewn Mynyddoedd Cambria, mae naw safle Profi’r Tywyllwch ac rydyn yn ffodus fod tri o’r  rhain o fewn 30 munud yn y car – yn Hostel Ty’n y Cornel (ym mhlwyf Llanddewi Brefi), Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llanerchaeron, Ciliau Aeron, a Choed y Bont, Pontrhydfendigaid.

Wrth gwrs ‘does dim angen teithio i’w brofi – dim ond i chi sefyll y tu allan i’ch llety a byddwch yn gallu dechrau ar eich antur sêr-syllu yma, boed o’r seddi cyfforddus tu allan, neu o gynhesrwydd eich twb poeth.

Does dim angen offer drud arnoch chi i ddechrau sêr-syllu. Mae’n cymryd tua 30 munud i’ch llygaid addasu’n llwyr i’r tywyllwch a rydym yn gallu darparu hamper sêr-syllu i chi ei logi yn ystod eich arhosiad. Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ddechrau eich antur sêr-syllu.

  • Ysbienddrych (binoculars)
  • Planisffer (olwyn y sêr)
  • Llyfrau sêr-syllu ar gyfer oedolion a phlant
  • Poster canllaw cytser
  • Blancedi cynnes
  • Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y canllaw Awyr Dywyll yn eich llety neu ewch i’r wefan gan ddefnyddio’r botwm isod.