Pysgota

Yr afon Teifi yw’r afon hiraf sy’n ddechrau a gorffen yn gyfan gwbl yng Nghymru. Tua 75 milltir o hyd  – mae’n dechrau uwchben pentref Pontrhydfendigaid ym mhyllau Teifi ym Mynyddoedd y Cambria, cyn cyrraedd y môr yn Gwbert a Bae Ceredigion. Yn ystod ei thaith, mae’n llifo trwy tua 1 1/2 milltir o’n dolydd yn Gogoyan. Yma mae’n bosib pysgota am Frithyll Brown, Sewin ac Eog.

Mae Afon Teifi yn afon llifeiriant (spate) ac yn pysgota orau am Eog a Sewin ar ôl glaw a chynnydd yn nŵr yn yr afon. Gellir dal brithyll brown ymhob uchderau’r afon. Dylid pysgota yn ôl is-ddeddfau a thymhorau afonydd.

Mae plant wrth eu boddau yn cael hwyl yn pysgota am sildynnod a gwarchennod barfog yn y basddyfroedd.

Os ydych chi’n dawel, dawel, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn lwcus i gael cipolwg ar ddyfrgwn yn ystod eich arhosiad.

Mae digonedd o adar i’w gweld – barcut, boncath a chigfrain, glas y dorlan, sgrech y coed, cnocell werdd, cnocell fraith fawr a bach, elyrch dof ynghyd â amrywiaeth o adar cân.

Os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i: