Treftadaeth a Diwylliant

Beth am deithio tua’r gogledd tuag at Bontrhydfendigaid ac ymweld ag adfail hanesyddol Ystrad Fflur, hen Abaty Sistersaidd sy’n dyddio’n ôl i 1164? Mae modd gweld olion yma o hyd ac mae rhaglen adnewyddu’n parhau.

Rhyw daith fer o Bontrhydfendigaid fe ddewch o hyd i Bontarfynach –  ble gallwch archwilio’r ardal lle ffilmiwyd y gyfres deledu enwog Y Gwyll/Hinterland. Ardal wirioneddol ddarluniadol o fewn Mynyddoedd Cambria.

Ychydig filltiroedd ffwrdd yn y car mae dau o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol- Mwynglawdd Aur Dolaucothi (ger Pumsaint); a Thŷ Sioraidd Llanerchaeron, o ble gallwch fynd am dro hamddenol i Aberaeron.

Dyma rai dolenni os hoffech ddysgu mwy o gyflafan ein safleoedd treftadaeth yn yr ardal:

www.stratafloridatrust.org

cardigancastle.com

ceredigionmuseum.wales