Wedi’i leoli o fewn cyrraedd i’r afon Teifi yng nghefn gwlad Ceredigion, Canolbarth Cymru mae Glampio a Gwersylla Mynyddoedd Cambria yn cynnig cyfle i ymwelwyr brofi rhyfeddod byd natur wrth fwynhau cyfleusterau gwersylla moethus. Enciliwch i dawelwch a golygfeydd godidog Mynyddoedd Cambria.
Ein gweledigaeth yw darparu seibiant hamddenol, adfywiol i ymwelwyr, yr holl sy’n bwysig y’ch eich hun – ein cred yw – os am seibiant y dylai fod yn seibiant o’ch trefn arferol. Yn ogystal â darparu’r llonyddwch a chyfle i ddianc o fywyd pob dydd, bydd y bwthyn a’r podiau yn darparu popeth ar eich cyfer – o dywelion i lwyau te. Byddwn yn darparu pecyn croeso wedi cyrchu’n lleol i’n gwesteion wrth gyrraedd, gan weithio’n agos gyda chynhyrchwyr bwyd a diod lleol.
Felin Gogoyan
Mewn ardal drawiadol gyda physgota preifat am 1 1/2 milltir ar hyd yr afon, llosgwr pren clyd a thwb poeth hamddenol, mae’r cyfan ar gael yn y bwthyn hwn!
Mwy o fanylion
I archebu: Felin Gogoyan (UK12583)
Tŷ Twt Teifi
Mae ein pod glampio moethus yn nythu ar odre Mynyddoedd Cambria, perffaith ar gyfer egwyl ramantus, yn ymlacio ynghanol cefn gwlad agored, dawel
Mwy o fanylion
I archebu: Tŷ Twt Teifi (UK31917)
Bwthyn Bach Brefi
Mae’r pod glampio moethus hwn yn nythu ar odre Mynyddoedd Cambria, perffaith ar gyfer egwyl ramantus, gydag Awyr Dywyll, twb poeth preifat a golygfeydd cefn gwlad.
Mwy o fanylion
I archebu: Bwthyn Bach Brefi (UK31919)
Safle Teithio a Gwersylla
Mae gan y safle 6 llain deithiol gwasanaeth llawn sydd i gyd yn wastad, glaswelltog ac wedi’u draenio’n dda, yn ogystal â 4 llain glaswellt gwastad.
Mwy o fanylion
I archebu: ewch i’r dudalen hon.