Arfordir Ceredigion
30 munud i ffwrdd yn y car tua’r gorllewin dewch i dref dlos Aberaeron. Yma cewch fynediad at arfordir hardd Ceredigion. Gall ymwelwyr gychwyn ar Lwybr Arfordirol enwog Cymru sy’n eich arwain i bentrefi arfordirol gerllaw, gan gynnwys Cei Newydd, Tresaith, ac Aberporth a, rhai milltiroedd ymhellach, i dref Aberteifi. Beth am ymweld â’r Castell ar ei newydd wedd sy’n dyddio’n ôl i 1176, lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf? Tref glan môr lliwgar gyda thraeth tywod braf, yw Cei Newydd. Mae dolffiniaid trwyn potel i’w gweld yn rheolaidd a gallwch fynd ar deithiau cychod o’r cei i weld y bywyd gwyllt morol.
Mae’n werth ymweld â thref Brifysgol Aberystwyth, sydd â phromenâd a pier Fictoraidd yn ogystal â Rheilffordd y Graig. Tra yn Aberystwyth, teithiwch tua’r gogledd i gyfeiriad y Borth ac Ynyslas lle, ar lanw isel mae olion coedwig i’w gweld. Mae ar ei orau yn y gaeaf pan fydd y llanw cryf wedi golchi’r tywod ffwrdd. Mae wedi ei gysylltu â chwedl ‘Cantre’r Gwaelod’. Ar un adeg roedd darn mawr o dir yn ymestyn ar draws yr hyn sydd heddiw yn Bae Ceredigion. Roedd islaw lefel y môr ond fe’i diogelwyd gan forgloddiau. Dewch o hyd i’r stori trwy chwilio am ‘Cantre’r Gwaelod’ yn eich peiriant chwilio.
Natur
Ewch am dro o’ch llety tuag at yr Afon Teifi. Mae’n llawn bywyd gwyllt; yn aml gellir gweld elyrch, dyfrgwn, glas y dorlan, barcutiaid coch a chrëyr glas. Ymwelwch â Gwarchodfa Natur Cors Caron sy’n gyfle rhagorol i wylio adar neu RSPB Cymru Ynys Hir neu Gwenffrwd Dinas ger Llyn Brianne.