Lleol

Llanddewi Brefi – mae’r gair ‘Llan’ yn golygu tir cysegredig, ‘Dewi’ yw’r enw Cymraeg am ‘David’ a ‘Brefi’ yw enw’r afon sy’n llifo drwy’r pentref.

Pentref bychan o tua 500 o drigolion yw Llanddewi Brefi. Mae’n un o’r plwyfi mwyaf yng Ngheredigion, yn ymestyn o Soar y Mynydd i bentref Llanddewi Brefi. Credir i Dewi Sant, nawddsant Cymru, berfformio un o’i wyrthiau yn y pentref. Yn ôl y chwedl, roedd torf o bobl wedi dod i wrando ar Dewi Sant yn pregethu ond yn methu ei weld. Gosododd hances ar y ddaear a chododd y ddaear oddi tano ac roedd pawb yn gallu ei weld. Saif eglwys Dewi Sant bellach ar y bryn bychan. Mae’r eglwys yn adeilad rhestredig Gradd II*.

Teledu a Ffilm

Mae’r pentref a’r ardal gyfagos wedi cael ei ddefnyddio ar wahanol achlysuron ar gyfer ffilm a theledu, cafodd ‘We are Seven’ a ffilm Gymreig ‘Y Llyffant’ eu ffilmio yma. Pwy sy’n cofio’r gyfres gomedi boblogaidd ‘Little Britain’? Wyddoch chi bod y cymeriad Daffyd Thomas, oedd yn cael ei chwarae gan Matt Lucas, yn dod o bentref o’r enw ‘Llandewi Brefi’? Dros y blynyddoedd mae cannoedd o bobl wedi cael tynnu eu llun ger arwydd y pentref.

Cwm Brefi

Ewch am dro o’r pentref i gyfeiriad Cwm Brefi. Mae hwn yn ddyffryn tlws iawn gydag afon Brefi yn llifo trwy’r mynyddoedd. Ar eich chwith ar ben y mynydd fe welwch Graig y Foelallt, graig sydd â hollt ynddi. Dyma ble, yn ôl y chwedl, wedi i ychen farw, bu i un arall frefu naw gwaith, mor uchel nes iddo hollti’r graig.

Operation Julie

Yn ôl yng nghanol y 1970au cynhaliwyd ymchwiliad enfawr gan yr heddlu i geisio dal cynhyrchwyr LSD. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys 11 o luoedd yr heddlu dros gyfnod o fwy na 2 flynedd ac fe arweiniodd at chwalu’r gweithrediadau gweithgynhyrchu LSD mwyaf yn y byd. Chwaraeodd pentref Llanddewi Brefi ran flaenllaw yn yr ymgyrch yn ystod y 1970’au gyda llawer o heddweision cudd yn byw gyda’r delwyr cyffuriau yn yr ardal leol. Am fwy o wybodaeth rhowch ‘Operation Julie’ i mewn i’ch peiriant chwilio.

Adnoddau’r pentref

Mae yna siop sy’n gwerthu popeth fydd ei angen arnoch rhyw 4 munud i ffwrdd yn y car, neu thua 20 munud o gerdded. Ceir yma bapurau newydd dyddiol, bara ffres a chynnyrch lleol. Mae yma faes chwarae i blant a  dwy dafarn – Y New Inn, sy’n gweini bwyd a’r Foelallt Arms.